Croeso i wefan Ysgol Santes Fair
Croeso cynnes iawn i’n hysgol. Yn Ysgol Gatholig Santes Fair, mae Crist yn ganolbwynt i popeth rydyn ni gredu a phopeth rydyn ni’n ei wneud. Ein nod yw hyrwyddo bywyd Cristnogol trwy addysg lle mae ffydd, diwylliant a bywyd yn uno, gan greu cymuned yn seiliedig ar werthoedd yr Efengyl sef cariad, gofal a pharch.
Mae’r cytgord hwn yng nghymuned Gatholig ein hysgol yn ffurfio’r sylfaen lle bydd ein plant yn datblygu’r gwerthoedd, y cymhelliant a’r argyhoeddiad moesol a fydd yn eu galluogi i weithredu’n ddoeth a gwneud dewisiadau cadarn mewn bywyd.
Ein nod yw darparu addysg gynhwysfawr, gydlynol ac o ansawdd uchel i bob plentyn trwy gynnig cwricwlwm eang, amrywiol, gwahaniaethol a pherthnasol, ynghyd â datblygu eu gwerthfawrogiad a’u dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol, iaith, llenyddiaeth a hanes Cymru.
Rydyn ni’n addysgu’r ffydd Gatholig trwy’r Rhaglen Grefyddol Gatholig Genedlaethol, ‘Come and See’, ac mae ein ffydd yn treiddio trwy gwricwlwm a bywyd yr ysgol gyfan. Credwn fod addysg yn bartneriaeth rhwng rhieni, yr ysgol, y plwyf a’r gymuned ehangach, ac rydym bob amser yn ceisio sefydlu perthynas waith agored er budd ein plant i gyd. Edrychwn ymlaen at eich gweld.
Mr Richard Jones
Pennaeth


